Ed Miliband
Does dim angen i bobol ddewis rhwng bod yn Gymreig a Phrydeinig, neu fod yn Albanaidd neu Brydeinig, meddai’r arweinydd Llafur, Ed Miliband.

Fe fydd yn dweud bod angen i’r cyfan o wledydd Prydain fod yn rhan o’r drafodaeth am annibyniaeth neu beidio ag yn addo pwysleisio rhagor ar hunaniaeth Lloegr.

Mae Ed Miliband yn rhoi’r araith yn Llundain yn hytrach na’r Alban wrth gyhuddo arweinydd yr SNP, Alex Salmond, o gynnig “dewis ffug”.

“R’yn ni yn y Blaid Lafur wedi bod yn rhy amharod i siarad am Loegr yn ystod y blynyddoedd diwetha’,” meddai, yn ôl dyfyniadau sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw.

Roedden nhw wedi helpu i gynyddu teimladau o hunaniaeth yng Nghymru a’r Alban, heb wneud yr un peth i’r Saeson. Roedden nhw’n nerfus, meddai, wrth drafod “y math yna o genedlaetholdeb”.

“Dw i ddim yn derbyn bod rhaid dweud Albanaidd neu Brydeinig, Cymreig neu Brydeinig, Seisnig neu Brydeinig. Mae wastad yn ddewis ffug.”