Carwyn Jones yn bwriadu ymweld â Glynllifon yn nes ymlaen yr wythnos hon
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi dymuno pob llwyddiant i Eisteddfod yr Urdd eleni, wrth i’r mudiad ei hun hefyd ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed.

Mae’r eisteddfod wedi agor heddiw ar dir Coleg Meirion Dwyfor yng Nglynllifon, rhwng Caernarfon a Phwllheli.

Dywedodd y Prif Weinidog:  “Dyma flwyddyn arbennig i’r Urdd wrth iddi nodi naw deg mlynedd ers ei sefydlu, ac rwy’n siŵr y bydd yr Eisteddfod yng Nglynllifon yn arbennig hefyd.

“Fel un o brif wyliau ieuenctid Ewrop sy’n dathlu llwyddiant pobl ifanc, dyma ddigwyddiad i fod yn falch ohono.

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r eisteddfod eleni, ac yn edrych ymlaen at ymweld â’r maes yn nes ymlaen yn yr wythnos.”