Mae partneriaeth yr Urdd a chwmni Disney yn parhau, yn ôl Cyfarwyddwr yr Eisteddfod wrth gyhoeddi y bydd pump o enillwyr Eryri 2012 yn cael mynd i barc hamdden Eurodisney ger Paris yn gynnar y flwyddyn nesa’ i berfformio unwaith yn rhagor.
Daeth cadarnhad heddiw y bydd enillwyr pump o gystadlaethau amrywiol yn teithio i Eurodisney er mwyn cymryd rhan mewn gwyl Gymreig rhwng Mawrth 8-10, 2013.
Y cystadlaethau hynny fydd:
Unawd Blwyddyn 2 ac iau
Unawd Blynyddoedd 3 a 4
Alaw Werin Unigol Blwyddyn 6 ac iau
Dawns Werin Unigol i Ferched Blwyddyn 9 ac iau
Unawd Sioe Gerdd Blwyddyn 10 a than 19 oed
“Fe fydd côr hefyd yn cael mynd i gynrychioli Cymru i Baris fis Mawrth nesa’,” meddai Aled Sion. “Eleni, Côr Aelwyd y Waunddyfal o Gaerdydd aeth draw, ond fe fydd côr arall yn cael ei ddewis eleni.