Purfa Chevron
Cynhaliwyd cyfnod o dawelwch ym mhurfa olew Valero (gynt Chevron) ger Aberdaugleddau y prynhawn yma i gofio am y pedwar laddwyd wedi ffrwydriad yno llynedd.

Lladdwyd Julie Jones 54, Dennis Riley 52, Robert Broome 48 ag Andrew Jenkins wedi i storfa olew ffrwydro ar 2 Mehefin 2011.

Roedd gwaith cynnal a chadw wedi cael ei wneud ar y storfa yn union cyn y ffrwydriad.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i ymchwilio i achos y ffrwydriad  ac wedi cael dros 200 datganiad hyd yn hyn.

Mae’r heddlu wedi cadanrhau hefyd eu bod wedi holi dau o weithwyr Chevron ynglyn â chyhuddiadau o ddynladdiad oherwydd esgeulustod difrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Oherwydd natur gymhleth yr ymchwiliad, mae gwaith manwl ychwanegol yn parhau i gael ei wneud gan staff arbenigol o’r Labordy Iechyd a Diogelwch. Mae’r ymchwiliad hefyd yn cael ei gefnogi gan gyfreithwyr arbennig o Wasanaeth Erlyn y Goron a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.”