Bydd Rob Howley yn awain yn absenoldeb Gatland
Bydd tri chwaraewr yn ennill eu capiau cyntaf yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn, tra bod un arall yn debygol o ennill ei ganfed cap.

Mae capiau cyntaf i Liam Williams y cefnwr, Harry Robinson yr asgellwr, ac i’r prop pen tynn Rhodri Jones o Bennal ger Machynlleth.

Mae Martyn Williams wedi ei enwi ar y fainc a bydd yn ennill ei ganfed cap pan ddaw ymlaen i’r cae.

Blaenasgellwr y Sgarlets Josh Turnbull sy’n dechrau yn y rhif 6, tra bod bachwr y Sgarlets, Matthew Rees, yn gapten ar dîm Cymru am y nawfed tro.

Bu’n rhaid iddo ildio’r gapteniaeth i Sam Warburton yn dilyn anaf cyn Cwpan y Byd y llynedd.

Dau arall sy’n dod nôl i’r tîm yw James Hook o dîm Perpignan, a’r asgellwr Aled Brew sydd ar ei ffordd i Biarritz y tymor nesaf.

Dywedodd yr hyfforddwr Rob Howley fod gan Gymru fomentwm ers iddyn nhw ennill y Gamp Lawn ac yn dilyn buddugoliaeth fawr i’r Gweilch yn y gynghrair.

“Rydym ni’n eisiau symud ymlaen i’r cam nesaf ac ennill adre yn erbyn tîm gwydn y Barbariaid  cyn i ni deithio i Awstralia,” meddai’r cyn-fewnwr sydd bellach yn hyfforddi’r garfan ryngwladol yn absenoldeb Warren Gatland.

Liam Williams (Sgarlets); Harry Robinson (Gleision), Andrew Bishop (Gweilch), James Hook (Perpignan), Aled Brew (Dreigiau); Dan Biggar (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision); Rhys Gill (Saraseniaid), Matthew Rees (Sgarlets) (Capten), Rhodri Jones (Sgarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Ian Evans (Gweilch), Josh Turnbull (Sgarlets),  Justin Tipuric (Gweilch), Ryan Jones (Gweilch)
Eilyddion: R Hibbard, P James , A Shingler, M Williams, Webb, A Warren, W Harri