Mi gafodd y Fflam Olympaidd daith ar drên stêm heddiw wrth i’w thaith o amgylch Cymru barhau.
Mi wnaeth Elin Owen, myfyrwraig 18 oed o Lanrug, gario’r Fflam ar y trên o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog. Dywedodd ei fod wedi bod yn brofiad “anhygoel”. Mae Elin ar ganol ei harholiadau lefel A ar hyn o bryd.
Derbyniodd y Fflam groeso gwresog yn yr orsaf ym Mhorthmadog ac yn y dref wrth iddi gael ei chludo drwy’r stryd fawr ar ei ffordd i Gricieth.
Ymhlith y rhedwyr yng Nghricieth oedd Ilan Davies, 16 oed, o’r Bala, mab Brian ‘Yogi’ Davies fu yn yr ysbyty am 18 mis ar ôl iddo gael ei barlysu mewn gêm rygbi ym mis Ebrill 2007. Cyn iddo ddod gartref, roedd Ilan yn teithio 190 milltir bob penwythnos i weld ei dad yn yr ysbyty.
Bryn Terfel fydd yn cario’r Fflam i mewn i Stad y Faenol ar gyrion Bangor yn ddiweddarach heddiw. Bydd yn cynnau crochan yno ar lwyfan cyngerdd arbennig sydd wedi cael ei drefnu i groesawu’r Fflam.