Mae dryswch yn parhau ynglyn â phwy fydd rheolwr newydd tîm pêl-droed Lerpwl yn dilyn ymadawiad Kenny Dalglish.

Brendan Rodgers

Dros y penwythnos dywedodd perchennog tîm pêl-droed Wigan, Dave Whelan, ei fod yn credu bod ei reolwr ef, Roberto Martinez, gynt o Abertawe,  wedi cael cynnig y swydd.

Bydd Martinez yn dychwelyd o’i wyliau yfory, ac roedd yn disgwyl y byddai’r ddau’n cyfarfod y diwrnod hwnnw i drafod y sefyllfa, meddai Whelan.

Ond yn awr mae sïon wedi codi fod Brendan Rodgers, rheolwr presennol tîm Abertawe, dal yn y ras i fod yn rheolwr Lerpwl er ei fod wedi gwrthod y cynnig cyntaf i drafod y swydd efo pherchnogion y clwb.

Roedd adroddiadau heddiw yn dweud y byddai Rodgers yn cael cyfarfod â pherchnogion Lerpwl, sy’n dod o’r Unol Daleithiau, gan ei fod draw yn Efrog Newydd ar ôl teithio yno i weld Cymru’n chwarae yn erbyn Mecsico.

Ond mae cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, wedi gwadu hynny’n bendant ar wefan y clwb.

“Hoffem gadarnhau nad yw Lerpwl wedi bod mewn cysylltiad,” meddai’r datganiad.