Gylfi Sigurdsson
Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau fod clwb Hoffenheim wedi derbyn cynnig o £6.8m am y chwaraewr canol-cae Gylfi Sigurdsson.

Mae’r chwaraewr 22 oed hefyd wedi cytuno ar dermau gyda’r clwb a mae disgwyl iddo gael arolwg meddygol ddiwedd yr wythnos yma er mwyn cadarnhau’r trosglwyddiad.

Mae’r chwaraewr o Ynys yr Iâ wedi gwneud argraff fawr dros y pum mis diwethaf ers bod ar fenthyg gydag Abertawe. Sgoriodd 7 gôl mewn 18 ymddangosiad a fe oedd Chwaraewr y Mis yn uwchgynghrair Lloegr ym mis Mawrth – y cyntaf o’r Elyrch i ennill y wobr.

Dim cyswllt rhwng Brendan a Lerpwl

Mae clwb Abertawe wedi ceisio rhoi stop ar sibrydion fod perchnogion Lerpwl am gael sgwrs gyda Brendan Rodgers ynghylch swydd y rheolwr yn Anfield.

Mewn datganiad byr dywedodd Abertawe

“Hoffwn ni gadarnhau na fu cyswllt gan Lerpwl ac na fu newid ers ein datganiad blaenorol ar y pwnc.”

Dywedodd Abertawe ddeg niwrnod yn ôl fod Brendan Rodgers wedi gwrthod y cynnig i siarad gyda pherchnogion Lerpwl a’i fod am barhau yn rheolwr Abertawe.

Y ffefryn ar gyfer swydd rheolwr Lerpwl yw Roberto Martinez, y Sbaenwr a fu’n rheoli ac yn chwarae dros Abertawe.