Capten Stephen Healey
Roedd milwr a gafodd ei ladd yn Afghanistan ddydd Sadwrn yn bêl-droediwr talentog a fu’n chwarae dros Lanelli yn uwchgynghrair Cymru.

Cafodd y Capten Stephen James Healey ei ladd gan ffrwydrad bom yn ardal Nahr-e Saraj. Roedd yn 29, yn dod o Gaerdydd yn wreiddiol ac yn Gapten yn y Ffiwsilwyr Cymreig.

Dywedodd ei deulu fod “Stephen wedi llwyddo i wneud mwy yn ystod ei dri degawd nag y mae llawer o bobol yn ei wneud mewn bywyd cyfan.”

Mae nifer o’i gyd-filwyr yn y Ffiwsilwyr Cymreig wedi talu teyrngedau iddo. Dywedodd Capten Mark Lewis ei fod yn “gawr o ddyn gyda chalon fawr” a dywedodd y Sarjant Mike Jones mai Stephen Healey oedd “o bell ffordd y swyddog ifanc mwyaf arbennig i fi gael yr anrhydedd o weithio gydag ef.”

Bu Stephen Healey yn brentis gyda chlwb Abertawe a pharhaodd i chwarae pêl-droed tra’n cwblhau gradd gwyddor chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe.

Ef yw’r 415ed milwr o wledydd Prydain i farw yn Afghanistan ers i’r ymgyrchoedd ddechrau yno yn Hydref 2001.