Mae gyrrwr car gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus ar ôl damwain ger y Bala ddydd Gwener wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Dyw’r heddlu ddim wedi enwi’r ferch leol gafodd ei lladd ar yr A494 rhwng Bala a Dolgellau yn gynnar nos Wener hyd yma ac mae nhw’n parhau i ofyn i dystion welodd y ddawmain gysylltu efo nhw.
Roedd y ferch a fu farw yn un o dri pherson oedd yn teithio mewn Fiesta lliw arian wnaeth adael y ffordd gan lanio ben i waered.
Cafodd gyrrwr y car a’r teithiwr arall eu hanafu’n ddifrifol, ac mae nhw’n dal i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Y dyn oedd yn gyrru’r ail gar sef Vauxhall Corsa lliw arian gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.
Mae disgwyl iddo ymddangos nesaf o flaen yr heddlu yng ngorsaf Dolgellau ar 6 Gorffennaf.
Roedd y ddau gar yn teithio i’r un cyfeiriad pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad a bu’r ffordd ar gau wedyn am rai oriau.