Roedd côr fu wrthi ers 34 o flynyddoedd yn cyd-ganu am y tro ola’ neithiwr. Ffurfiwyd Merched y Garth yn 1978 gan y delynores Meinir Heulyn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Ers hynny mae merched cyrion Caerdydd wedi ennill gwobrau ac wedi perfformio ar draws y byd. Yn ôl y Llywydd Eifiona Hewitt maen nhw’n dechrau mynd yn hŷn, a hynny’n ffactor yn y penderfyniad i roi’r ffidil yn y to.

“Mae’r niferoedd wedi mynd lawr hefyd, ac mae eisiau ryw waed newydd. Os fysa ni yn cael dipyn o bobl ifanc i ymuno efo ni efallai, neu ein bod ni yn gadael achos mae yna gymaint o gorau ifanc yng Nghaerdydd. Felly dw i yn meddwl bod y tyniad iddyn nhw fynd i fan yna.”

Mae hi ymhlith ryw hanner dwsin o aelodau gwreiddiol sydd wedi parhau i ddod i’r ymarferion dros y blynyddoedd. Cerdd dant ac alawon maen nhw’n ganu rhan fwyaf.

Pan gafodd Merched y Garth ei ffurfio doedd yna fawr ddim o gorau uniaith Gymraeg yn yr ardal. “Be rydan ni yn deimlo ydy’r oedd ein hangen ni pryd hynny. Roedd yna angen i ferched ddod at ei gilydd adeg ddechreuon ni. Erbyn hyn mae yna gorau eraill i bobl. Mae’r dewis ganddo chi.”

Mae nhw wastad wedi bod yn griw o ferched a hynny am bod yna gôr cymysg, Godre’r Garth, yn bodoli yn barod. “Wnaeth neb ystyried cael dynion achos oedd lot o’n gŵyr ni yn canu yng Nghôr Godre’r Garth. Felly rydan ni wedi cadw i’r merched. Mae’n ddigon anodd cael dynion i ddod i’r côr cymysg medden nhw. Dw i’n meddwl fysa ni yn dwyn eu dynion nhw efallai!”