Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i dystion damwain ffordd ddifrifol yng Nghaerdydd gysylltu â nhw gydag unrhyw wybodaeth.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 6.30yh ddydd Mawrth, Mai 22, pan fu car Citroen C1 lliw arian mewn gwrthdrawiad â bachgen lleol deng mlwydd oed ar gyffordd St Anthony Road a Heathway.

Roedd y Citroen yn teithio i gyfeiriad y dwyrain ar hyd Heathwood Road, a’r bachgen yn cerdded o St Anthony Road gyda grwp o ffrindiau. Fe groesodd Heathwood Road ger y gyfforddd gyda St Anthony Road.

Dylai unrhyw un a welodd unrhyw beth, neu sydd ag unrhyw wybodaeth am y ddamwain neu’r hyn ddigwyddodd jyst cyn y gwrthdrawiad, gysylltu gydag Uned Plismona Ffyrdd Heddlu De Cymru ar 02920 633 438, neu 101, neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.