Cipio baner Cernyw
Mae trefnwyr taith y fflam Olympaidd wedi dweud na fydd hawl gan gludwyr y fflam gario baner y Ddraig Goch, na chwaith unrhyw faner arall.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gemau Olympaidd 2012 y bydd swyddogion diogelwch yn cipio’r Ddraig Goch oddi ar unrhyw redwr a fydd yn chwifio’r faner wrth gario’r ffagl.
“Mae’r rhedwyr yno i gludo’r fflam a dim byd arall,” meddai llefarydd ar ran y Gemau wrth Golwg360.
“Pan gynigiwyd lle i bob cludwr nôl ym mis Mawrth fe ofynnon ni iddyn nhw lofnodi er mwyn datgan eu bod nhw’n cytuno gyda’r amodau. Yn benodol, fe gytunon nhw i wisgo gwisg swyddogol y cludwyr ac i gludo’r ffagl yn unig – os byddan nhw’n cario baner Cymru neu unrhyw faner arall yna byddan nhw’n torri’r amodau.”
Mae’r fflam yn cyrraedd Cymru yfory ac mae anniddigrwydd ar wefannau cymdeithasol y byddai’r Ddraig Goch yn cael ei gwahardd o daith y fflam.
Yng Nghernyw ddydd Sadwrn cafodd baner ddu a gwyn Cernyw ei chipio oddi ar redwr gan swyddogion diogelwch y ffagl. Roedd Andrew Ball yn cludo’r ffagl yn Saltash ar gymal olaf y fflam yng Nghernyw.