Dafydd Iwan - "cefnogi ysbryd streic cerddorion Radio Cymru"
Mae Dafydd Iwan wedi dweud wrth Golwg360 heddiw ei fod yn “cefnogi ysbryd” streic undydd Cerddorion Radio Cymru dros daliad “annheg” PRS i gerddorion Radio Cymru.
Daw hyn yn dilyn streic ymysg cerddorion Cymraeg sydd am wrthod yr hawl i Radio Cymru ddefnyddio eu cynnyrch. Maen nhw o’r farn eu bod nhw’n “haeddu gwell na 49 ceiniog y funud” gan y PRS am gael chwarae eu cerddoriaeth ar yr orsaf.
Mae trefnwyr y streic yn annog cerddorion i arwyddo llythyr a fydd yn cael ei anfon at benaethiaid BBC Cymru yn ganolog. Fe fydd yn cynnwys rhestr o’r cerddorion sydd ddim am i’w cerddoriaeth gael ei chwarae ar Radio Cymru am gyfnod o 24 awr ar 1 Mawrth eleni.
Ond, er bod Dafydd Iwan yn cefnogi “ysbryd y streic” – mae’n pwysleisio fod gan y BBC yr “hawl dechnegol a chyfreithiol” i chwarae cerddoriaeth y cerddorion hyn. Dywed fod sefyllfa gyfreithiol cytundebau PRS a’r BBC yn ei gwneud yn amhosibl sicrhau nad ydyn nhw.
“Gweithred symbolaidd”
“Rydan ni (sef y fi a Sain) yn cefnogi’r weithred yma fel gweithred symbolaidd. Rydan ni’n rhoi pob cefnogaeth mewn egwyddor – ond yn anffodus, fedrwch chi ddim hawlio’r peth yn gyfreithiol heb dynnu’r holl ganeuon oddi yno. Dydi hi ddim yn bosibl i gerddorion wneud hynny cyn 1af Mawrth,” meddai wrth Golwg360.
“Mae hefyd yn bosibl na fydd y BBC yn chwarae cerddoriaeth y bobl hynny sydd ar y rhestr beth bynnag.”
Doedd yr ymgyrch ddim yn ei synnu, meddai.
“Gyda Radio Cymru – mae’r taliad wedi disgyn a phawb arall wedi codi gyda cherddorion ar Radio 2 yn cael dros £20,” meddai.
“Yr opsiwn delfrydol fyddai corff arbennig i Gymru – a fyddai’n gweithio ar delerau gwahanol, gyda cherddorion yn mynd drwy’r corff Cymreig yn hytrach na’r system PRS.”
Ymateb y BBC
Mae’r BBC wedi dweud mai “anghydfod rhwng y PRS a’r cerddorion, nid BBC Radio Cymru” yw’r sefyllfa ddiweddaraf am daliadau PRS.
“Mae’n anffodus bod ein gwrandawyr ni yn gorfod dioddef os yw protest o’r fath yn digwydd,” meddai llefarydd ar ran y BBC.
“Fel sefydliad sydd yn cefnogi’r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg, mae’n peri gofid i ni nad yw’r anghydfod rhwng y PRS a’i haelodaeth Gymraeg wedi ei ddatrys. PRS sy’n gyfrifol am osod lefel taliadau ac felly mater iddyn nhw ydi trafod hyn ymhellach gyda’r aelodau.”
Ond fe ddywedodd Deian ap Rhisiart, sydd wedi creu’r grŵp streic ar Facebook fod y BBC wedi bod yn “rhedeg i ffwrdd o’u cyfrifoldebau ers tair blynedd – fel mae’r datganiad yn ei ddangos”.
“Yn y pen draw, pan fydd yna gorff annibynol yn cael ei sefydlu – fydd dim dewis gyda nhw – ond i ddelio hefo ni yn uniongyrchol,” meddai.
Eisoes, mae dros 70 o gerddorion wedi ymuno â’r streic ar 1 o Fawrth gan gynnwys pedwar o aelodau Tebot Piws.