Mae Heddlu Dyfed Powys wedi talu teyrnged i’r cyn Brif Gwnstabl Terence Grange fu farw ar 18 Mai yn dilyn salwch hir.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Ian Arundale bod Terence Grange wedi cael dylanwad hir dymor ar waith yr heddlu drwy’r DU.

Cafodd Terence Grange ei benodi’n Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys yn 2000 cyn ymddeol yn 2007.

Roedd yn briod a chanddo dri o blant.