Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion ar ôl i dda byw gael eu lladd yn dilyn achos posib o losgi bwriadol mewn carafán yng ngogledd sir Benfro.

Lladdwyd anifeiliaid a difrodwyd carafán mewn tân ar fferm fach ym mhentref Llangolman, ger Maenclochog rhywbryd rhwng 7pm nos Sadwrn ddiwethaf a 8.55am fore Sul.

“Mae llosgi bwriadol yn drosedd ddifrifol iawn, ac rydym yn lwcus na chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad,” meddai  Ditectif Sarjant Geoff Asson cyn dweud fod “nifer fach o anifeiliaid ei llosgi i farwolaeth yn y tân.”

“Os ydych wedi gweld unrhyw beth neu unrhyw un yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal tuag amser y tân, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth ynghylch a’r digwyddiad, dylech gysylltu â Gorsaf Heddlu Arberth neu’r adran CID yn Hwlffordd yn ddi-oed drwy ffonio 101.”