Mae aelodau o Gyngrhair y Trethdalwyr yn casglu enwau ar ddeiseb yng Nghaerdydd heddiw er mwyn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i’r cynllun sy’n golygu bod siopwyr yn talu 5c am fag untro.
Yn ôl y Gyngrhair mae’r tâl yn faich ychwanegol ar fusnesau bach ac yn niweidiol i dwristiaeth.
Dywedodd cyfarwyddwr Cynghrair y Trethdalwyr, Lee Canning, nad oes unrhyw un am weld bagiau yn creu llanast ond “mae’r dreth yma yn orymateb i’r broblem,” meddai.
“Dylai Llywodraeth Cymru annog teuluoedd i fod yn llai dibynnol ar fagiau yn hytrach na’u cosbi.”
Daeth y tâl o 5c y bag i rym yn Hydref 2011 er mwyn gostwng y gorddefnydd o’r bagiau ac mae cwmniau yng Nghymru yn wynebu dirwy o hyd at £5000 os ydyn nhw’n rhoi’r bagiau am ddim i gwsmeriaid.
Mae’r arian sy’n cael ei godi yn mynd i elusennau ac o’r herwydd mae’r Llywodraeth yn gwadu bod hyn yn dreth.
Dywed Tesco ac Asda eu bod wedi rhoi £100,000 yr un i elsuennau ers i’r rheol ddod i rym.