Leanne Wood
Mae ffrae wedi ffrwydro heddiw rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru dros fater yr undebau.

Roedd Andy Richards, Ysgrifennydd Undeb Unite yng Nghymru, wedi beirniadu ymdrechion Leanne Wood i glosio at yr undebau a chynnig cydweithio yn erbyn agenda Clymblaid Cameron a Clegg.

Ond yn ôl yr AC Rhodri Glyn Thomas fe ddylai’r undebau llafur fod yn agored i gydweithio gyda’r Blaid er lles pobol Cymru.

“Dyma sylwadau annoeth iawn a rhyfeddol gan Andy Richards: nid yw fel petai yn gallu derbyn fod Plaid Cymru wedi amlygu eu penderfyniad ers tro byd i sefyll dros hawliau gweithwyr.  Dengys ei sylwadau llwythol yn glir mai ei flaenoriaeth ef yw beth sydd orau i’r Blaid Lafur – yn hytrach na beth sydd orau i’w aelodau,” meddai Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Mae’r Blaid Lafur wedi taro’n ôl yn erbyn y cyhuddiad ‘llwythol’ trwy ymosod ar Leanne Wood yn bersonol.

“Mae clywed Leanne Wood a Phlaid Cymru yn mwydro am wleidyddiaeth lwythol eto mor pathetic ac ydyw’n ragweladwy – yn dod gan blaid sydd â’i phrif egwyddor yn wleidyddiaeth lwythol sy’n hwrjo annibyniaeth,” meddai llefarydd y Blaid Lafur.

“Mae sawl rheswm pam fod undebau llafur yn parhau’n amheus iawn o Blaid Cymru. Mae’r Blaid yn bygwth gwahanu Cymru o weddill Prydain, yn bygwth economi’r Deyrnas Gyfunol, yn bygwth chwalu trefniadau bargeinio dros gyflog, yn dweud celwyddau am Gronfa Addysgu’r Undeb Cymreig, ac yn galw grantiau datblygu i bobol sy’n gweithio yn ‘lwgrwobrwyo’.”