Mae llai o bobol yn gwrando ar orsafoedd radio sy’n cyflwyno newyddion a materion cyfoes, yn ôl ffigyrau’r corff RAJAR a gyhoeddwyd ddoe. Ac mae hynny’n wir ar draws y bwrdd yng Nghymru yn ystod chwarter cyntaf 2012 – o Radio Cymru i Heart FM i Real Radio.

Tra bod 5.6% yn llai o bobol yn gwrando ar Radio Cymru na’r un adeg y llynedd, mae Heart FM (sy’n gweithredu yng ngogledd orllewin Lloegr a gogledd Cymru) wedi gweld gostyngiad o 1.4% yn eu gwrandawyr hwythau; ac mae Real Radio yn ne Cymru hefyd yn denu 10.6% yn llai o bobol i wrando.

Mae 2.6% yn llai o bobol yn gwrando ar Radio Sir Gâr; 1.4% yn llai yn gwrando ar Heart FM yng ngogledd Cymru; 10.6% yn llai ar Real Radio yn ne Cymru, a bron i 2% wedi diffodd gorsaf Gold yn y de.

Yr unig orsafoedd yng Nghymru i weld cynnydd yn nifer eu gwrandawyr oedd Radio Wales (cynnydd o 0.7%), Radio Sir Benfro gyda chynnydd o 14.6%, a gorsaf Gold North West and Wales a welodd gynnydd mawr o bron i 43% yn eu gwrandawyr ym misoedd Ionawr, Chwefror a Mawrth eleni.

Roedd yr un duedd i’w gweld yn y gorsafoedd ‘cenedlaethol’ fel Radio 4 – a welodd ostyngiad o 500,000 yn ei gwrandawyr, a’r rhaglen faterion cyfoes foreol, Today, yn cael dros 600,000 yn llai o bobol yn tiwnio i mewn. Mae 200,000 yn llai yn gwrando ar Radio Five Live.

Faint sy’n gwrando yng Nghymru?

BBC Radio Wales – 462,000

Real Radio Wales (De) – 412,000

Heart North West and Wales : 205,000

Radio Sir Benfro – 147,000

BBC Radio Cymru – 136,000

Real Radio Wales (Gogledd) – 56,000

Gold South Wales – 54,000

Radio Sir Gâr – 38,000

Gold North West & Wales – 30,000

Radio Ceredigion – 10,000