Mae’r crefftwr a greodd Coron Eisteddfod yr Urdd eleni  wedi dweud mai dylanwad pennaf y goron oedd tirwedd mynyddig Eryri a’r traddodiad glan môr.

Hon fydd y goron gyntaf i John Price o Fachynlleth ei chreu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, ond mae’n hen law ar greu coronau.

“Dw i wedi creu ymhell dros gant o goronau dros y blynyddoedd, i amryw o steddfodau.

“Hobi llwyr ydi hi i mi, ond dw i’n cael pleser mawr yn y gweithdy.  Mae hi’n wefr cael cynllunio coron i brifwyl ieuenctid yr Urdd, a dw i’n mawr obeithio y bydd enillydd i fynd o dan y goron ymhen ychydig wythnosau yng Nglynllifon!” meddai.

Dywed John Priced ei bod hi’n goron draddodiadol o fand arian, gyda chwpled arbennig wedi ei ysgythru ar y band o dan driban yr Urdd sydd wedi ei enamelo yn lliwiau’r Urdd –  coch, gwyn a gwyrdd.

Noddwyr y goron, Parc Cenedlaethol Eryri, drefnodd gystadleuaeth i annog beirdd ifanc i osod eu marc ar y goron eleni.

I’r brig daeth Gruffydd Antur, 20 oed o Aelwyd Pantycelyn, Aberystwyth ac mae’r cwpled yn cymryd ei ddyledus le yng nghanol y goron:

‘Pery awen y llenor; Pan na fydd mynydd na môr.’

Bydd y goron, o arian pur, yn cael ei chyflwyno i’r enillydd am greu darn neu ddarnau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau ar y thema ‘Egin’, a beirniaid y gystadleuaeth eleni fydd Catrin Dafydd a Meg Elis.

Taith feics

Cynhelir yr Eisteddfod eleni ar dir Coleg Meirion Dwyfor yng Nglynllifon rhwng 4 a 9 Mehefin, ond bydd gwneuthurwr y goron, John Price, yn absennol o faes yr Eisteddfod ar ddechrau’r ŵyl.

Bydd yn mynd gyda chriw o Ferched y Wawr sy’n teithio ar feics o Abertawe i faes Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon er mwyn codi arian tuag at ymchwil cancr celloedd yr ŵy.

Y gŵr fydd yn gyrru’r cerbyd ac yn cefnogi’r criw gyda’i fag tŵls yn y cefn fydd  gwneuthurwr y goron eleni.

Y Gadair

Mae Cadair Eisteddfod yr Urdd yn coffáu tad a mab, sef Meirion Parry a Ceredig Parry, Fron Olau, Rhoslan.

“Mi fyddai’r ddau wrth eu boddau eu bod nhw’n cael eu coffáu â’r Eisteddfod yn Eryri,” eglura Bethan Jones Parry

“Dyn y pethe oedd dad, a dyn y pridd oedd Ceredig, yn ffermio’r fferm deuluol, ond roedd y ddau yn Gymry i’r carn.  Roeddem fel teulu yn ei gweld hi’n gyfle gwerth chweil yn Eisteddfod yr Urdd eleni i gofio am ŵr, tad, brawd a thaid annwyl iawn.”

Cyfaill i’r teulu a chrefftwr o Rosfawr ger Pwllheli yw Llewelyn Wyn Jones, gwneuthurwr y gadair.  Mae’n gweithio fel saer ers dros hanner can mlynedd, a choeden dderw leol a ddefnyddiodd i greu’r gadair.

“Mae hi’n fraint fawr cael creu cadair i Steddfod fawr fel hon ar ein stepan drws” meddai Llewelyn Wyn Jones

“Rhyw wythnos dda gymrodd i mi ei chreu, a dyma’r tro cyntaf i mi greu cadair i Eisteddfod yr Urdd.  Dwi’n gobeithio’n fawr y bydd teilyngodd yn ystod yr wythnos ac y caiff hi gartref da yn rhywle!”

Noddir cystadleuaeth y gadair eleni gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans a beirniaid y gystadleuaeth yw Rhys Iorwerth ac Ifan Prys.