Mae Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan wedi croesawu’r cyhoeddiad bod General Motors am fuddsoddi £125 miliwn yn eu ffatri cynhyrchu ceir Vauxhall yn Ellesmere Port.

Fe fydd y buddsoddiad yn golygu bod 2,000 o swyddi yn cael eu diogelu ac  y bydd dyfodol y ffatri yn cael ei sicrhau tan o leiaf 2020.

Fe gyhoeddodd General Motors y bydd yr Astra newydd yn cael ei adeiladu ar y safle gan greu 700 o swyddi Newydd a 4,000 o swyddi cynhyrchu eraill o ganlyniad i’r buddsoddiad.

Mae’r newyddion wedi cael ei groesawu gan gannoedd o weithwyr o Ogledd Cymru sy’n cael eu cyflogi gan Vauxhall.


Cheryl Gillan
Dywedodd Cheryl Gillan heddiw: “Mae’r cyhoeddiad yma heddiw yn newyddion gwych i’r economi a channoedd o weithwyr o Ogledd Cymru sy’n teithio i’r ffatri yn Ellesmere Port bob dydd.

“Mae’r newyddion yn arwydd clir bod y diwydiant cynhyrchu ceir yn y DU yn mynd o nerth i nerth.”