Aberdyfi
Corff yn y môr rhwng Tywyn ac Aberdyfi
Mae plismyn, bad achub a Gwylwyr y Glannau wedi tynnu corff o’r môr yn ardal de Gwynedd.
Fe alwyd heddlu lleol i draeth rhwng Aberdyfi a Thywyn, Meirionnydd, fore heddiw (dydd Llun) am 10.30 o’r gloch.
Fe gafodd y corff ei dynnu o’r môr yn ddiweddarach, ac nid ydyw wedi ei adnabod yn ffurfiol eto.
Mae crwner Gogledd Orllewin Cymru wedi cael ei hysbysu o’r digwyddiad.