Mae Cyngor Powys wedi rhybuddio y bydd gwerthwyr nwyddau ffug sy’n gobeithio gwneud ceiniog sydyn dros gyfnod y Jiwbili a’r Gemau Olympaidd eleni, yn cael eu cosbi’n llym.
Daeth y cyhoeddiad wedi i fasnachwr gael ei erlyn a’i gosbi yr wythnos ddiwetha’ am geisio gwerthu nwyddau yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd y llynedd.

Fe blediodd Dean Gallmore o swydd Dyfnaint, yn euog yn Llys Aberhonddu i dri chyhuddiad o dorri Deddf Nodau Masnach 1994. Cafodd orchymyn i dalu £1,000 tuag at gostau’r erlyn, ac fe fu’n rhaid iddo ildio oddeutu 5,000 o eitmau a oedd yn ei feddiant ac yr oedd yn bwriadu eu gwerthu. Roedd gwerth y nwyddau hynny dros £7,000.

“Ryden ni’n cyhoeddi busnesau cyfreithlon a threthdalwyr lleol, a dyna pam ein bod ni’n targedu gweithgareddau economaidd anghyfreithlon,” meddai Steve Holdaway, pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol Lleol, Cyngor Sir Powys.

“Fe fyddwn yn parhau â’r gwaith hwn, yn enwedig ym mhrif ddigwyddiadau’r sir.”

Ymateb yn gadarn

Fe gyhoeddodd Cyngor Sir Powys gynllun ‘Real Deal’ yn 2011 er mwyn mynd i’r afael â gwerthwyr nwyddau ffug ac unrhyw un sy’n torri’r gyfraith ar faterion yn ymwneud â hawlfraint.

Gyda dau ddigwyddiad mawr ar y gweill eleni – y Gemau Olympaidd a’r Jiwbili Brenhinol – mae’r cyngor yn addo rhoi eu traed ei lawr ar ddarpar-ddrwgweithredwyr.

Maen nhw’n gofyn I unrhyw un sydd ag amheuon ynglyn â nwyddau sy’n cael eu gwerthu o fewn y sir, i rybuddio’r awdurdodau ynglyn â hynny. Neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.