Mae undeb gweithwyr trafnidiaeth yn dwyn achos yn erbyn Network Rail am ei fod yn honni fod y cwmni rheilffyrdd yn talu llai i ferched nag i ddynion am wneud yr un gwaith.

Bydd undeb Mudiad yr Aelodau Staff Trafnidiaeth (TSSA), sy’n cynrychioli 30,000 o weithwyr, yn cyflwyno manylion yr achos yn eu cynhadledd nhw sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd heddiw.

Mae’r achos yn cael ei ddwyn ar ran 34 o ferched sy’n gweithio ar lefel rheoli canolig, ac mae’r TSSA yn hawlio dros £25,000 yr un i’r merched am eu bod nhw wedi colli allan ar gyflog uwch dros sawl blwyddyn.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TSSA, Manuel Cortes, fod yr achosion yma yn “crafu’r wyneb yn unig” ac y gall y cwmni rheilffyrdd wynebu cannoedd o achosion ychwanegol.

Mae arolwg gan yr undeb yn awgrymu fod y bwlch rhwng cyflogau merched a dynion o fewn Network Rail yn £4,500 ar gyfartaledd, a dywedodd Manuel Cortes bod hynny’n annerbyniol gan gwmni sy’n derbyn cyllid gan y pwrs cyhoeddus.