Mae cwmni o’r Gorllewin wedi rhoi cynnig i’w gweithwyr beidio â dathlu Jiwbili Brenhines Lloegr gyda diwrnod bant o’r gwaith ar Fehefin y 4ydd, a chael Diwrnod i’r Brenin ym mis Medi i ddathlu Diwrnod Owan Glyndŵr yn ei le. 

Fe fydd Gŵyl Banc ychwanegol ymhen rhyw fis ledled Prydain i ddathlu 60 mlynedd ers i Elisabeth Yr Ail ddod ar yr orsedd am y tro cyntaf.

Ond mae cwmni IAITH Cyf. O Gastellnewydd Emlyn am gynnig rhywbeth gwahanol.

“Mae yna frenhinwyr a gweriniaethwyr, unoliaethwyr a chenedlaetholwyr, yn gweithio i ni”, meddai Gareth Ioan, Prif Weithredwr IAITH. “Er mwyn bod yn gynhwysol, felly, rydym wedi penderfynu rhoi dewis i staff pryd y caren nhw gymryd y gwyliau ychwanegol yma. Fe gawn nhw ddathlu Jiwbili Deimwnt ei Mawrhydi ym mis Mehefin neu ddathlu Diwrnod Owain Glyndŵr ym mis Medi. Mae e lan iddyn nhw”.

Gan y bydd Diwrnod Owain Glyndŵr, 16 Medi, yn syrthio ar ddydd Sul bydd y cwmni yn neilltuo dydd Gwener, 14 Medi, fel y diwrnod gwyliau dewisol. “Mae dydd Gwener wastad wedi fy nharo i fel diwrnod callach i gael gwyliau cyhoeddus beth bynnag”, meddai Gareth Ioan. “Ma’ cael gwyliau ar ddydd Llun yn tarfu ar drefn yr wythnos waith”.

Mae’r cwmni eisoes yn rhoi diwrnod o wyliau i staff ar 1 Mawrth er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi gyda’u teuluoedd. “Mae dathlu ein gwyliau cenedlaethol ni’n hunain yn hollbwysig”, meddai’r Prif Weithredwr. “Mae pob cenedl sy’n meddu ar ronyn o hunan barch yn dathlu agweddau ar eu hanes a’u diwylliant eu hunain ar ffurf gwyliau cyhoeddus. Dylai gweithwyr Cymru gael yr un cyfle i wneud hynny hefyd. Os nad yw’r awdurdodau yn barod i’w nodi, rhaid i gyflogwyr Cymru gymryd y blaen”.

Mae cwmni Golwg wedi ymrwymo i roi’r un cynnig i’w gweithwyr nhw hefyd.