Mae yna bryder y bydd pobol Ceredigion yn cael parcio unrhyw le y maen nhw ei eisiau o fis Mehefin ymlaen heb unrhyw gosb am wneud hynny.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau na fyddan nhw’n parhau i ddarparu gwasanaeth warden traffig yn y sir o ddiwedd mis Mai.

Serch hynny dyw’r cyngor heb benderfynu eto a ydyn nhw’n barod i lenwi’r bwlch. Dywedodd llefarydd wrth Golwg 360 nad ydyn nhw wedi gwneud y penderfyniad terfynol.

Dywedodd un cynghorydd wrth Golwg 360 y bydd yna “pandemonium” ar y strydoedd os nad yw’r cyngor yn dod i benderfyniad yn fuan.

“Mae’r drafodaeth wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd lawer, ond dw i’n credu bod e wedi dod i’r pwynt lle mae’n rhaid i ni wneud penderfyniad,” meddai Gareth Lloyd, Cynghorydd Annibynnol ward Llandysiliogogo.

Dywedodd fod y cyngor wedi astudio ffigyrau sy’n dangos y bydden nhw’n “gwneud colled ariannol i ddechrau – ond dros amser fe fyddai’r sir yn elwa yn ariannol”.

“Os yw’r Cyngor yn gwrthod, efallai y bydd rhaid i ni gael cwmnïau preifat i redeg meysydd parcio – dyna un opsiwn. Yr opsiwn arall yw gwneud dim byd. Bydde pandemoniwm ar y strydoedd wedyn. Sa i’n credu gallwn ni wneud dim.

“R’yn ni wedi edrych ar fframweithiau siroedd eraill sy’n ei wneud e ac yn ceisio dysgu o’u camgymeriadau nhw.”

Ymateb yr heddlu

Yn ôl yr Heddlu, maen nhw wedi bod wedi gobeithio “trosglwyddo gwasanaethau wardeiniaid traffig  i’r awdurdod lleol ers peth amser”.

O 31 Mai 2011 fe fydd yr heddlu yn rhoi’r gorau i ddarparu’r gwasanaeth, er eu bod nhw’n addo i “ymateb i unrhyw alwadau gan y cyhoedd”.

“Rydyn ni wedi cynghori staff fydd yn cael ei heffeithio ac fe fyddwn ni’n eu diweddaru nhw os oes unrhyw ddatblygiadau,” meddai’r Prif Arolygydd Robyn Mason.

Ymateb y cyngor

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor wrth Golwg 360 y bydd cyfarfod yn hwyrach y mis yma er mwyn trafod y mater.

Penderfynodd  Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyfeirio’r mater i sylw’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Priffyrdd ym mis Tachwedd 2010, meddai.

Roedden nhw wedi ystyried y goblygiadau ariannol i’r awdurdod pe baen nhw yn gyfrifol am reoli parcio yn y sir.

“Mae’r aelodau yn cydnabod y bydd rhaid iddynt ddod i ddeall y pwnc yn drylwyr cyn gwneud argymhelliad i’r Cabinet,” meddai’r llefarydd.

“Penderfynwyd trefnu Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor i’w gynnal ddydd Iau 17 Chwefror am 2pm yng Nghanolfan Rheidol, Llanbadarn Fawr, er mwyn derbyn cyflwyniad ar Orfodi Parcio Sifil gan ymgynghorwyr, cyn mynd ati i gyflwyno argymhelliad i’r Cabinet.”

Parcio – ‘Profiad anhygoel’

Un cynghorydd sy’n honni ei bod hi eisoes wedi profi effaith diffyg warden traffig yw’r cynghorydd Catherine Jane Hughes o ward Tregaron.

Dywedodd nad oedd warden traffig yn y dref a bod ceisio dod o hyd i le i barcio yno yn “brofiad anhygoel”.

“Mae ceir yn parcio ymhobman. Does unman fel y lle. Mae gyda ni’n rheolau ein hunain!

“Dydw i ddim yn siŵr y byddai pobl Tregaron o blaid y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb. Mae’n siŵr y bydden nhw’n fwy llym. Ond, mae’n rhaid gwneud rhywbeth”.