Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi anfon llythyr yn llongyfarch Arlywydd newydd Ffrainc, Francois Hollande.
Trechodd Francois Hollande yr Arlywydd ceidwadol, Nicolas Sarkozy, yn yr etholiad yn y wlad ddoe.
Mae llythyr Carwyn Jones yn llongyfarch yr ymgeisydd sosialaidd ar ei “etholiad gwych a hanesyddol”.
“Wrth ennill rydych chi wedi rhoi gobaith newydd i’r holl bleidiau sosialaidd ledled Ewrop,” meddai.
“Gobaith fod ffordd amgen ac egwyddorol ymlaen o fynd i’r afael â’r cyfnod economaidd ac ariannol anodd yma.
“Rydw i’n falch iawn fod gan Ffrainc a Chymru lawer iawn yn gyffredin – yn enwedig ein brwdfrydedd am rygbi.
“Rydw i’n edrych ymlaen at eich croesawu i Gaerdydd, y tro nesaf y mae Ffrainc yn chwarae Cymru.”
Cydweithio
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, hefyd wedi datgan y bydd yn gweithio’n “agos iawn” â Francois Hollande wrth siarad ag ef ar y ffôn neithiwr.
Doedd David Cameron ddim wedi cwrdd â Francois Hollande wrth ymweld â Pharis ym mis Chwefror, ac roedd wedi awgrymu ei fod yn cefnogi Nicolas Sarkozy.
Ond dywedodd ei fod ef a Francois Hollande wedi cytuno i adeiladu ar “y berthynas agos iawn” rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, ei fod yn llongyfarch Francois Hollande ar gael ei ethol yn Arlywydd Ffrainc.
“Rydw i wedi trafod ag ef yn Llundain yn gynharach eleni ac yn gwybod ei fod yn benderfynol o greu Ewrop sy’n cefnogi twf economaidd a swyddi mewn modd cynaliadwy,” meddai.
“Dyma sydd wir ei angen ar Ewrop os ydyw am ddianc o lymder y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi dangos y gallai’r chwith gynnig gobaith ac ennill etholiadau.
“Rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”