Man U 2-0 Abertawe

Colli fu hanes Abertawe yn Old Trafford brynhawn Sul wrth i obeithion Man U o ennill yr Uwch Gynghrair leihau. Sgoriodd Scholes a Young i roi’r pencampwyr ddwy ar y blaen yn yr hanner cyntaf ac felly yr arhosodd hi tan ddiwedd y gêm. Ond Man City yw’r ffefrynnau o hyd wedi iddynt hwy guro Newcastle yn gynharach yn y prynhawn.

Bu rhaid i Michel Vorm wneud dau arbediad da i gadw’r sgôr yn gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf. Arbedodd ergyd Patrice Evra o 20 llath i ddechrau cyn atal Wayne Rooney ar yr ail gynnig.

Ond roedd y pencampwyr ar y blaen wedi 28 munud diolch i’r bytholwyrdd, Paul Scholes. Cafwyd gwaith da gan Antonio Valencia ar yr asgell dde cyn i Michael Carrick ergydio at y gôl. Er bod ei gynnig ef ar y targed mae’n debyg y byddai Vorm wedi ei arbed ond trodd Scholes y bêl i gefn y rhwyd.

Cafodd Rooney gyfle i ddyblu’r fantais ond saethodd dros y trawst cyn i Valencia, Phil Jones ac Evra wastraffu hanner cyfleoedd hefyd.

Ond roedd hi’n ddwy cyn yr egwyl diolch i gôl Ashley Young wedi 41 munud. Ergydiodd Rooney i ddechrau ond cafodd ei gynnig ei hatal gan Angel Rangel cyn i Young grymanu ergyd gywir i’r gornel isaf y rhwyd.

Fe redodd Young i nôl y bêl wrth i Man U lygadu cyfle i wella’u gwahaniaeth goliau ond er mawr glod iddynt fe gadwodd Abertawe’r sgôr fel oedd hi tan ddiwedd y gêm.

Yn wir, bu bron iddynt dynnu un yn ôl pan ergydiodd Gylfi Sigurdsson o bellter yn yr ail hanner ond llwyddodd David De Gea i arbed.

Fe gafodd y tîm cartref eu cyfleoedd hefyd ond er i Ronney ddod yn agos ni ychwanegwyd at y sgôr.

Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn y deuddegfed safle gydag un gêm gartref yn erbyn Lerpwl ar ôl. Mae gobeithion Man U ar y llaw arall o ddal eu gafael ar yr Uwch Gynghrair yn pylu gan i Man City ennill heddiw hefyd.