Charteris - Gêm Olaf
Dreigiau 18–22 Leinster

Doedd dau gais hwyr ddim yn ddigon i’r Dreigiau achub buddugoliaeth yng ngêm olaf tymor y RaboDirect Pro12 yn erbyn Leinster ar Rodney Parade nos Sadwrn.

Daeth tymor siomedig Gwŷr Gwent i ben gyda cholled yn erbyn y tîm sy’n gorffen y tymor ar frig y tabl er gwaethaf ceisiau Dan Lydiate a Will Harries yn y chwarter awr olaf.

Ciciau cosb oedd stori’r chwarter cyntaf wrth i faswr yr ymwelwyr, Ian Madigan, drosi tair a rhif deg y Dreigiau, Lewis Robling, lwyddo gyda dwy. 9-6 y sgôr felly cyn i Jack McGrath ymestyn mantais yr ymwelwyr wedi 22 munud gyda’r cais agoriadol.

Bu bron i’r canolwr, Noel Reid, sgorio ond gwnaeth y prop, McGrath, yn dda i’w gefnogi a chroesi’r gwyngalch. 16-6 yn dilyn trosiad Madigan ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Ychwanegodd Madigan ddwy gic gosb arall yn yr ail hanner wrth ymestyn mantais ei dîm i 22-6 gydag ychydig dros ddeg munud yn weddill.

Daeth Lydiate a’r Dreigiau yn nes pan blymiodd drosodd am gais cyntaf y Dreigiau yn dilyn gwaith da gan y blaenwyr.

Ac yna sicrhaodd Harries bwynt bonws i’r tîm cartref gyda chais arall yn yr eiliadau olaf, 22-18 y sgôr terfynol.

Ac yn wir mae’r cais hwyr hwnnw a’r pwynt bonws yn golygu fod y Dreigiau’n neidio dros Treviso i’r nawfed safle yn nhabl y RaboDirect Pro12 ar yr unfed awr ar ddeg.

Wedi dweud hynny, does dim dwywaith i hwn fod yn dymor siomedig i’r Dreigiau ac fe all pethau fod yn anoddach fyth y tymor nesaf gan mai hon oedd gêm olaf chwaraewyr dylanwadol fel Luke Charteris ac Aled Brew i’r rhanbarth.