Aironi 11–18 Gweilch
Sicrhaodd y Gweilch eu bod yn gorffen yn ail ac yn chwarae gartref yn rownd gynderfynol y RaboDirect Pro12 gyda buddugoliaeth yn y Stadio Zaffanella nos Sadwrn.
Roeddynt eisoes yn gwybod mai Munster fyddai eu gwrthwynebwyr yn y pedwar olaf ond roedd angen pwynt arnynt i wneud yn siŵr mai ar y Liberty y bydd y gêm honno nos Wener.
Efallai mai dim ond pwynt oedd ei angen ond cafwyd pedwar wrth i geisiau hanner cyntaf Fussell a Dirksen osod y sylfaen ar gyfer buddugoliaeth yn yr Eidal.
Cafodd y Gweilch ddechrau gwych gyda chais i’r cefnwr, Richard Fussell, wedi dim ond pum munud. Roedd ffug bas ac ychydig o gryfder yn ddigon i dorri’r amddiffyn cartref o bum medr ac er i Dan Biggar fethu’r trosiad roedd gan y Cymry fantais gynnar.
Cyfnewidiodd Biggar a maswr Aironi, Naas Oliver, gic gosb yr un wedi hynny wrth i’r Gweilch barhau bum pwynt ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner.
Ond unionodd yr Eidalwyr y sgôr yn fuan wedi hynny gyda chais i’r wythwr o Seland Newydd, Nick Williams. 8-8 wedi 23 munud.
Roedd y Gweilch yn ôl ar y blaen bum munud cyn yr egwyl pan sgoriodd yr Hanno Dirksen ail gais yr ymwelwyr. Torrodd yr asgellwr ddwy dacl wrth orffen symudiad slic ar yr asgell dde. Ychwanegodd Biggar y trosiad i roi saith pwynt o fantais i’r rhanbarth o Gymru am y tro cyntaf.
Ond llwyddodd Oliver i gau’r bwlch hwnnw i bedwar pwynt unwaith eto gyda chic gosb arall funud cyn yr egwyl, 15-11 i’r Gweilch ar hanner amser.
Cic gosb Biggar wedi 63 munud oedd unig bwyntiau’r ail hanner wrth i’r Gweilch ennill y gêm yn gymharol gyfforddus o 18-11 tra’n cadw un llygad ar y gêm fawr yn erbyn Munster nos Wener.
Y Gweilch yn gorffen y tymor yn ail yn y tabl felly ond gallant godi’r cwpan o hyd gyda dwy fuddugoliaeth yn y gemau ychwanegol. Diweddglo trist ar y llaw arall i dymor cyntaf ac olaf Aironi yn y RaboDirst Pro12.