Jones – Gêm olaf
Scarlets 29–20 Gleision
Curodd y Scarlets y Gleision yng ngêm olaf y tymor yn y RaboDirect Pro12 nos Sadwrn, ond doedd hynny ddim yn ddigon i sicrhau lle iddynt yn y rownd gynderfynol gan i Glasgow guro Connacht gartref.
Roedd Bois y Sosban yn dibynnu ar ffafr gan y Gwyddelod i gyrraedd y pedwar olaf ond ennill yn gyfforddus fu hanes Glasgow.
Ond roedd digon o ddathlu ym Mharc y Scarlets pryn bynnag wrth i’r rhanbarth ffarwelio â’u maswr poblogaidd, Stephen Jones, mewn gêm gyffrous lawn ceisiau yn erbyn y gelynion o Gaerdydd.
Rhwng y ddau dîm, roedd llu o chwaraewyr yn chwarae eu gemau olaf i’w rhanbarth ond mae’n debyg mai fel gêm olaf Jones, sydd yn gadael am Wasps yn yr haf, fydd hon yn cael ei chofio.
Cais Cynnar
Dau funud yn unig a oedd ar y cloc pan sgoriodd Andries Pretorius y cais agoriadol i’r Gleision. Dwynodd Gethin Jenkins y bêl yng nghanol y cae a thair pas syml yn unig oedd eu hangen i ryddhau’r wythwr ar y chwith. Doedd neb yno i amddiffyn i’r Scarlets ac roeddynt saith pwynt ar ei hôl hi yn dilyn trosiad Ceri Sweeney.
Tarodd y Scarlets yn ôl gyda chic gosb o droed Rhys Priestland wedi chwe munud ond er bod Bois y Sosban yn rheoli bu bron i’r Gleision sgorio ail gais toc wedi chwarter awr o chwarae.
Roedd angen gwaith amddiffyn gwych gan ddau o’r chwaraewyr a oedd yn ffarwelio â Pharc y Scarlets i achub y tîm cartref. Dangosodd y clo, Dominic Day, gyflymder anhygoel i ddal asgellwr y Gleision, Harry Robinson, cyn i Sean Lamont wneud yn wych i’w atal rhag tirio.
Y Scarlets yn Taro’n ôl
Daeth cais cyntaf y Scarlets yn haeddianol wedi 23 munud. Dyfarnwyd cic gosb am dacl beryglus gan Robinson ar Lamont a chymerodd y mewnwr cartref, Gareth Davies, hi’n gyflym. Rhedodd o’i hanner ei hun cyn curo Sweeney yn rhy hawdd o lawer, 10-7 yn dilyn trosiad Priestland.
Dechreuodd yr ail hanner yn debyg iawn i’r cyntaf – gyda chais braidd yn annisgwyl i’r Gleision. Ond er clod iddynt, roedd hwn yn dipyn o gais. Cafwyd rhedeg da gan Casey Laulala a Chris Czekaj yng nghanol y cae i roi cyfle ar blât i Alex Cuthbert ar yr asgell dde. Sgoriodd yr asgellwr ac er i’r eilydd faswr, Dan Parks, fethu’r trosiad roedd y Gleision ar y blaen o 12-10.
Ond yn ôl y daeth y Scarlets gydag ail gais Davies wedi 49 munud. Cafwyd dwylo gwych gan y blaenwyr, Josh Turnbull, Kieran Murphy a Day i gadw’r bêl yn fyw i’r mewnwr groesi yn y gornel dde. Llwyddodd Priestland gyda’r trosiad anodd i roi pum pwynt o fantais i’r tîm cartref.
Cyfartal ar yr Awr
Ond roedd pethau’n gyfartal dri munud yn ddiweddarach wedi i’r Gleision daro’n ôl gyda chais digon tebyg. Tro blaenwyr y Gleision i ddangos dwylo da yn y chwarae agored oedd hi’r tro hwn a llwyddodd Robinson i gwblhau’r symudiad.
Ac roedd y Gleision ar y blaen chwarter awr o’r diwedd diolch i gic gosb Dan Parks yn dilyn trosedd Phil John.
Scarlets oedd y tîm gorau o hyd a doedd fawr o syndod pan sgoriodd Liam Williams drydydd cais Bois y Sosban i’w rhoi’n ôl ar y blaen ddeg munud o’r diwedd. Cafwyd pêl lân yn y lein a dwylo da wrth iddynt agosáu’n araf at y llinell cyn i’r cefnwr dirio, 22-20 i’r tîm cartref.
Coroni’r Cyfan
Sicrhawyd y fuddugoliaeth a phwynt bonws gyda chais cosb hwyr a throsiad Priestland. Ond doedd hyd yn oed pum pwynt ddim yn ddigon i sicrhau lle i’r Scarlets yn y rownd gynderfynol oherwydd canlyniad Glasgow.
Serch hynny roedd hi’n noson i’w chofio ar Barc y Scarlets wrth i’r dorf leol ffarwelio â Stephen Jones ac eraill am y tro olaf.
Roedd y maswr yn amlwg yn emosiynol iawn wrth adael y cae ac roedd ganddo eiriau caredig iawn i’r rhanbarth a chlwb Llanelli ar y diwedd:
“Mae wedi bod yn bleser chwarae i glwb rygbi’r Scarlets a Llanelli, mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd chwarae i’r rhanbarth a fi wedi mwynhau pob eiliad.”
Gorffen yn bumed yn nhabl y Pro12 mae’r Scarlets felly gyda’r Gleision ddeuddeg pwynt y tu ôl iddynt yn y seithfed safle.