Ched Evans
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod tri o bobol wedi cael eu harestio mewn cysylltiad ag ymchwiliad i enwi’r ddynes a dreisiwyd gan Ched Evans ar rwydweithiau cymdeithasol.

Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd yr wythnos diwethaf am dreisio dynes 19 oed mewn ystafell westy ger y Rhyl ym mis Mai y llynedd.

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio dan Adran 5 y Ddeddf Diwygio Troseddau Rhyw, ac mae dyn arall wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyfathrebu maleisus.

Mae’r tri dyn yn cael eu dal gan Heddlu De Swydd Efrog ar hyn o bryd, yng ngorsaf heddlu Sheffield, lle maen nhw’n cael eu cyfweld gan swyddogion Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd DCI Steven Williams o Heddlu Gogledd Cymru y prynhawn ’ma fod “y tri wedi eu harestio gyda chymorth Heddlu De Swydd Efrog, ac maen nhw’n ran o gyfres o gynlluniau i arestio pobol yn ystod yr ymchwiliad hwn sy’n dal i fynd yn ei flaen.”

Y cefndir

Cafodd Ched Evans, 23, ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar gan Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener ar ôl i reithgor ei gael yn euog o dreisio merch oedd “yn rhy feddw i roi ei chaniatâd”.

Mae honiadau bod y dioddefwr wedi ei henwi a’i sarhau ar Twitter a rhwydweithiau cymdeithasol eraill yn dilyn yr achos llys.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y sylwadau ar-lein yn “frawychus” ac wedi achosi “rhagor o boen meddwl” i’r ddioddefwraig.

Cyhoeddodd Ched Evans ddydd Mawrth ei fod yn bwriadu apelio yn erbyn ei garchariad.