Anna Ryder Richardson (Myung Jung Kim/PA)
Mae cyn-gyflwynydd teledu wedi ymddangos o flaen llys heddiw wedi ei chyhuddo o dorri rheolau iechyd a diogelwch yn ei pharc bywyd gwyllt.

Gwadodd y cynllunydd cartref enwog Anna Ryder Richardson, 48, a’i gŵr Colin MacDougall, 46, dau gyhuddiad yr un sy’n codi o anafiadau a gafodd bachgen bach a’i fam mewn atyniad twristaidd.

Nhw yw perchnogion a rheolwyr Parc Bywyd Gwyllt Manor House yn St Florence ger Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro.

Llefodd Ryder Richardson a sychu ei llygaid â chadach poced yn ystod y gwrandawiad yn Llys Ynadon Hwlffordd.

Fe fydd yr achos llys yn parhau yn Llys y Goron Abertawe ar 14 Mai. Mae hynny’n golygu y bydd y pâr yn wynebu achos llys o flaen rheithgor yn hwyrach ymlaen eleni.

Daw’r cyhuddiadau yn dilyn damwain ym mis Awst 2010 pan gafodd bachgen tair oed anafiadau difrifol i’w ben ym Mharc Bywyd Gwyllt Manor House.

Treuliodd Gruff Davies-Hughes dri diwrnod mewn uned cynnal bywyd ar ôl i gangen drom ddisgyn arno mewn gwyntoedd cryfion.

Cafodd ei fam, Emma Davies-Hughes, 28, anaf i’w phen, ac fe dorrodd ei choes, ei phelfis a’i braich.

Changing Rooms

Mae’r fam i ddau, Anna Ryder Richardson, yn enwog am ei rhan ar raglen Changing Rooms y BBC, gyda Laurence Llewelyn-Bowen.

Yn 2008 penderfynodd hi roi’r gorau i’w gyrfa deledu a phrynu’r sw 52 acr gyda’i gŵr

Mae’r erlyniad yn cael ei ddwyn gan isadran diogelu’r cyhoedd Cyngor Sir Penfro.