Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi rhybuddio fod toriadau gwariant Llywodraeth Prydain yn “rhy ddwfn a rhy sydyn”, wrth i ffigurau ddangos heddiw fod Prydain mewn dirwasgiad eto.

“Fe ddywedon ni y byddai’r toriadau yma’n arwain at ddirwasgiad dwbl a heddiw mae’r ffigurau wedi dangos ein bod ni’n gywir,” meddai Prif Weinidog Cymru.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd economi Prydain wedi crebachu 0.2% yn ystod chwarter cynta’r flwyddyn ac roedd ‘na ostyngiad mewn Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) o ganlyniad i’r sectorau adeiladu a manwerthu bregus.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod ffigurau ar incwm teuluol – sy’n dangos faint o arian mae teuluoedd yn ei wario neu’n cynilo – yn dangos bod gan Gymru yn 2010 y cynnydd uchaf fesul person yn y DU.

“Mae angen i Lywodraeth Prydain newid trywydd a dilyn ein harweiniad ni trwy ddilyn polisi economaidd sy’n hyrwyddo twf cynaliadwy, yn creu swyddi ac yn sicrhau fod gan bobl y sgiliau angenrheidiol i gyflawni eu potensial,” meddai Carwyn Jones.

‘Trychinebus’

Mae Plaid Cymru hefyd yn rhoi’r bai am y dirwasgiad ar gyfeiriad polisi economaidd Llywodraeth Glymblaid y DU a’r toriadau a gyflwynwyd ganddyn nhw.

Dywedodd Jonathan Edwards AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys: “Mae’r ffigyrau hyn yn drychinebus ac mae’r dirwasgiad dwbl yn dangos methiant llwyr bolisïau economaidd Clymblaid y DU.

“Mae’r ffigyrau hyn yn dangos economi di-dwf yn y DU, flynyddoedd ar ôl dechrau’r argyfwng ariannol.

“Mae Plaid wedi rhybuddio ers dechrau’r argyfwng ariannol fod twf yn hanfodol ar gyfer lles yr economi, ond mae pecyn cynildeb Clymblaid y DU sy’n cynnwys toriadau, diswyddiadau a chynnydd trethi ar gyfer pobl gyffredin wedi tanseilio’r economi ac arwain at y dirwasgiad dwbl yr ydym ynddo nawr.

“Drwy gydol yr argyfwng, mae’r Blaid wedi cynnig polisïau i fuddsoddi mewn prosiectau isadeiledd, megis ysbytai, ysgolion, rheilffyrdd a ffyrdd, a fyddai wedi creu swyddi bellach i roi hwb i’r economi a buddsoddi mewn gwell golygon ar gyfer y dyfodol.”