Y Canghellor George Osborne
Mae’r DU mewn dirwasgiad eto ar ôl i’r economi grebachu 0.2% yn chwarter cynta’r flwyddyn, yn ôl ffigurau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd ’na ostyngiad mewn Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) o ganlyniad i’r sectorau adeiladu a manwerthu bregus.

Mae’r ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw yn golygu bod y DU yn ôl mewn dirwasgiad i bob pwrpas – sy’n cael ei ddiffinio fel dau chwarter o ostyngiad yn olynol.

Roedd y Ddinas wedi darogan y byddai’r economi wedi tyfu 0.1% ar ôl gostyngiad o 0.3% yn y chwarter blaenorol.

Ond mae’n debyg na fydd y dirwasgiad cynddrwg â’r un yn 2008/09 oedd wedi parhau am flwyddyn.

Fe fydd y ffigurau heddiw yn rhoi mwy o bwysau ar y Llywodraeth ac yn cynyddu’r feirniadaeth bod mesurau llym y Canghellor George Osborne yn rhwystro twf yr economi.

‘Trychinebus’

Mae Plaid Cymru wedi ymateb gyda siom i’r ffigyrau a gyhoeddwyd y bore ‘ma, gan roi’r bai am y dirwasgiad ar gyfeiriad polisi economaidd Llywodraeth Glymblaid y DU a’r toriadau a gyflwynwyd ganddynt.

Dywedodd Jonathan Edwards AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys:

“Mae’r ffigyrau hyn yn drychinebus ac mae’r dirwasgiad dwbl yn dangos methiant llwyr polisïau economaidd Clymblaid y DU.

“Mae’r ffigyrau hyn yn dangos economi di-dwf yn y DU, flynyddoedd ar ôl dechrau’r argyfwng ariannol.

“Mae Plaid wedi rhybuddio ers dechrau’r argyfwng ariannol fod twf yn hanfodol ar gyfer lles yr economi, ond mae pecyn cynildeb Clymblaid y DU sy’n cynnwys toriadau, diswyddiadau a chynnydd trethi ar gyfer pobl gyffredin wedi tanseilio’r economi ac arwain at y dirwasgiad dwbl yr ydym ynddo nawr.

“Drwy gydol yr argyfwng, mae’r Blaid wedi cynnig polisiau i fuddsoddi mewn prosiectau isadeiledd, megis ysbytai, ysgolion, rheilffyrdd a ffyrdd, a fyddai wedi creu swyddi bellach i roi hwb i’r economi a buddsoddi mewn gwell golygon ar gyfer y dyfodol.”