Gwesty'r River Lodge
Mae’r grŵp tu ôl i gynlluniau i greu canolfan ddiwylliannol newydd yn Wrecsam, a gafodd ei atal yn ddisymwth gan Lywodraeth Cymru yn 2010, yn gobeithio y bydd atebion i’w cael mewn cyfres o baragraffau coll cyn bo hir.
Mae’r grŵp tu ôl i brosiect cymunedol Powys Fadog yn gobeithio y bydd Tribiwnlys Gwybodaeth yn gorfodi Llywodraeth Cymru i ddatgelu paragraffau coll o gyfres o lythyron rhwng Aelodau o Lywodraeth Cymru a ddaeth i glawr wedi cais trwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Ddiwedd wythnos ddiwethaf, bu’r Tribiwnlys Gwybodaeth yn trafod a ddylid datgelu’r wybodaeth goll yn y llythyron rhwng Karen Sinclair, y cyn AC Llafur, a Rhodri Morgan, cyn-Brif Weinidog Cymru.
Yn ôl arweinydd y prosiect, Pol Wong, fe gafwyd hyd i’r llythyron drwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ddwy flynedd yn ôl, ond, “roedd sawl paragraff wedi eu dileu.”
Ond mae’r ymgyrchwyr wedi clywed bellach y bydd hi’n cymryd chwe wythnos cyn i’r Tribiwnlys gyhoeddi eu penderfyniad yn yr achos.
“Dwi’n grediniol bod y paragraffau coll yn rhoi esboniad i ni ynglŷn â pham fod y prosiect wedi ei atal,” meddai Pol Wong.
“Tan nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod rhoi unrhyw esboniad rhesymol i ni a dwi wastad wedi mynnu fod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail rhagfarn,” meddai.
“Dwi’n meddwl ein bod ni’n haeddu gwybod y gwir ynglŷn â’r ffordd r’yn ni wedi cael ein trin,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai’n “amhriodol gwneud sylw ar unrhyw faterion yn ymwneud â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud gan y Tribiwnlys Gwybodaeth.”
Y cefndir
Roedd cynllun Powys Fadog i fod i gael ei ddechrau yn 2010, cyn i Lywodraeth Cymru gamu mewn ar y funud olaf ac atal yr arian a ddisgwyliwyd i gael ei roi at y prosiect.
Roedd hyn ar ôl i’r Llywodraeth fuddsoddi £1.6 miliwn yn prynu hen westy’r River Lodge yn ôl yn 2007 ar gyfer union bwrpas y prosiect.
Yn ôl Pol Wong, roedd y prosiect yn dibynnu ar dderbyn £249,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru yn 2010 – sef traean o’r holl gost – er mwyn bwrw ymlaen â’r cynlluniau.
Fe fyddai’r prosiect wedi denu twristiaid, meddai, a chreu 30 o swyddi.
Mae arweinwyr a chefnogwyr y prosiect yn cyhuddo’r Ysgrifennydd Parhaol, Gillian Morgan, o ymyrryd yn y prosiect ar y funud olaf ac atal y cyllid.
Yn ôl Pol Wong roedd swyddogion blaenllaw wedi rhoi eu cymeradwyaeth i’r prosiect ar hyd y broses, nes y cafodd yr arian ei atal gan yr Ysgrifennydd Parhaol.
Mae’r sefyllfa dan ystyriaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru ar hyn o bryd, hynny’n dilyn galwadau nifer o fewn y Cynulliad, gan gynnwys Llyr Huws Gruffydd AC, a Mark Isherwood AC.