Abu Hajar
Mae arweinydd Islamaidd o Gaerdydd wedi cyhoeddi fideo YouTube yn galw ar Fwslimiaid i gefnogi’r frwydr am gyfraith Sharia yn Syria “yn gorfforol os oes angen”.

Mae Abu Hajar, o Drelluest, yng Nghaerdydd, yn un o arweinwyr y grŵp Islamaidd Cefnogwyr Tawheed.

Mewn fideo gyhoeddwyr ar YouTube o’r enw ‘Cefnogwch Fwslemiaid Syria’, mae Abu Hajar yn dweud  bod angen “ateb Islamaidd” i broblemau’r Dwyrain Canol.

Dylid sefydlu cyfraith Sharia yno a gwrthod unrhyw gymorth y mae’r Gorllewin yn ei gynnig, meddai.

“Mae ein harian ni â chi, ac os oes angen fe fydd ein Mwslemiaid yn dod ag ateb i’ch galwad yn gorfforol hefyd,” meddai.

“Dydyn ni ddim yma i alw am ryddid, i alw am ddemocratiaeth, i alw am hawliau dynol. Cofiwch mai’r geiriau hyn sy’n gyfrifol am y gormes sy’n digwydd yng ngwledydd y Mwslim.


“Felly rydyn ni’n galw ar Fwslemiaid i fod yn gadarn a galw am sharia, i alw am ateb Islamaidd.

“Dylid parhau i herio’r cyfundrefnau yma, yn Nhunisia, Syria, yr Aifft, Saudi Arabia ac Yemen.

“Mae angen i Fwslemiaid Gwlad yr Iorddonen godi ac fe fyddwn ni’r Mwslemiaid yn ymateb i’ch galwad chi.”

Mae cadeirydd Cyngor Mwslemiaid Cymru, Saleem Kidwai, wedi beirniadu’r fideo, gan ddweud bod Abu Hajar ar ymylon y ddadl.

“Ni fydd yn cyflawni unrhyw beth drwy greu fideo ar ôl fideo a gweiddi,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.

“Os ydych chi’n ddinesydd yn y wlad yma mae angen bod yn rhan weithredol o’r broses wleidyddol.”