Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr wedi dweud bod aneglurder yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru i dybio bod pobol am gyfrannu organau oni bai eu bod nhw’n nodi fel arall.

Wrth gyflwyno ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth ar y cynlluniau, mae’r Gymdeithas wedi codi cwestiynau ynglŷn â materion traws-ffiniol rhwng Cymru a Lloegr.

Maen nhw’n gofyn i’r Llywodraeth fanylu ar sut bydd organau o Gymru yn cael eu defnyddio ar draws Prydain gyfan, a beth fydd y sefyllfa os bydd person sy’n byw yng Nghymru yn marw mewn ysbyty yn Lloegr.

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn argymell bod angen gwell diffiniad o ystyr “byw yng Nghymru” – gan nodi a fydd myfyrwyr a gweithwyr contract sydd yn preswylio yng Nghymru am dymor penodol yn dod o fewn y diffiniad.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â’r ffaith y bydd organau pobol o Gymru yn gallu cael eu defnyddio trwy Brydain gyfan, ac yn gofyn beth fydd budd cynllun felly i Gymru’n unig.

Dryswch dros rôl y teulu

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr hefyd yn gofyn faint o hawl fydd gan y teulu i wrthod rhoi organau perthynas sydd wedi marw.

Wrth ymateb i gynlluniau’r Llywodraeth, mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn dweud bod amheuon ynglŷn â hawl y teulu i wrthod rhoi organau perthynas a fu farw heb eithrio eu hunain o’r system sy’n rhagdybio cyfrannu organau.

Yn ôl y Gymdeithas mae’r papur gwyn yn awgrymu bod hawl gan y teulu i gyflwyno dyhead y person a fu farw, ond nid eu safbwynt nhw fel teulu.

“Mae’n ymddangos nad yw rôl y teulu’n sicr hyd yn oed ym meddyliau Gweinidogion Cymru ac mae eglurhad yn hanfodol” meddai Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Yn ôl Kay Powell, o Gymdeithas y Cyfreithwyr, dydyn nhw ddim o blaid nac yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth yng Nghaerdydd, ond bod angen mwy o eglurder ar fanylion y papur gwyn.