Y cerbyd 4x4, wedi iddo gael ei yrru drwy ffenest y siop
Mae Heddlu’r De yn gobeithio y bydd rhyddhau ffilm teledu cylch cyfyng sy’n dangos siop fetio ym Merthyr yn cael ei thargedu gan ladron, yn annog pobl i gysylltu â nhw gyda gwybodaeth.

Cafodd siop Coral yn Sgwâr y Farchnad yn y dre ei thargedu ddydd Llun, 16 Ebrill pan gafodd cerbyd 4×4 ei yrru drwy ffenest y siop.

Roedd tri o ddynion wedi mynd at gownter y siop tra bod dyn arall yn aros yn y cerbyd.

Ni lwyddodd y tri i ddwyn unrhyw beth o’r siop ond roedden nhw wedi achosi difrod gwerth miloedd o bunnoedd.

Cafodd y cerbyd, Diahatsu Fourtrak, ei ddarganfod yn agos i’r safle yn ddiweddarach. Roedd y car wedi cael ei ddwyn o Dredegar Newydd yng Ngwent.

Dywedodd y ditectif Roy Portlock: “Rydym yn apelio ar unrhyw un i roi gwybodaeth i ni am y digwyddiad yma.

“Rydym yn chwilio am bedwar o bobl, ac mae’n bosib eu bod yn dod o’r ardal.

“Ry’n ni’n gwybod bod y cerbyd wedi ei ddwyn o Dredegar Newydd felly mae’n bosib bod rhywun yno wedi sylwi ar unrhyw beth amheus. Neu mae’n bosib bod rhywun wedi clywed rhywbeth y noson honno tra roedd y pedwar yn dianc o’r car.”

Dywedodd ei fod yn ffodus iawn na chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ym Merthyr ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111.