Alex Jones Llun: BBC
Bydd y cyflwynydd Alex Jones yn cael golwg ar genhinen bedr sydd wedi ei henwi ar ei hôl, yn Sioe RHS yng Nghaerdydd y penwythnos hwn.

Mae Cenhinen Bedr Alex Jones yn cael ei harddangos ar ôl i gyflwynwraig The One Show ar y BBC gael rhodd yn fyw ar y sioe pan ddaeth y tyfwr blodau llwyddiannus, Ron Scamp, i’r stiwdio i roi ei blodyn ei hun iddi.

Mae Alex Jones yn dilyn Katherine Jenkins a’r ‘Duffydil’ drwy gael cenhinen bedr wedi’i henwi ar ei hôl.

Mae’r blodyn gwyn a phinc golau yn anarferol am Genhinen Bedr, a chaiff ei dyfu gan gwmni Ron, Quality Daffodils, sydd wedi ennill y wobr am yr Arddangosfa Flodau Orau yn sioe’r gwanwyn yng Nghaerdydd am chwe blynedd yn olynol.

‘Duffydil’

Dros y blynyddoedd mae’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol wedi anrhydeddu nifer o unigolion drwy enwi blodyn ar eu hôl, ac mae Alex yn ymuno â’r Dywysoges Diana a Maria Callas.

Mae Daffodil Kathryn Jenkins a’r ‘Duffydil’ wedi bod ar werth yn sioeau blaenorol yr RHS yng Nghaerdydd.

Y Genhinen Bedr yw delwedd y sioe yng Nghaerdydd, a fydd yn denu tua 25,000 o bobl i barcdiroedd Castell Caerdydd ar benwythnos 20-22 Ebrill. Mae’r digwyddiad yn cynnwys blodau o feithrinfeydd ledled y wlad, gerddi arddangos, a chyngor ac ysbrydoliaeth ar gyfer y tymor garddio sydd ar ddod.

Dywedodd Ron Scamp: “Mae Cenhinen Bedr Alex Jones yn flodyn hyfryd a chain, fel Alex ei hun. Rwy’n credu y bydd yn boblogaidd ymysg ymwelwyr â sioe Caerdydd a chefnogwyr Alex, a bydd yr elw yn mynd i elusennau’r BBC.”