Mae cynllun gwerth £100m i adeiladu tai ar safle hen felin bapur yn Elái, Caerdydd, yn cael ei lansio heddiw.

Bwriad cynllun Pont Elái yw codi 700 o dai, a bydd y cynllun yn cael ei redeg gan gymdeithas adeiladu’r Principality gyda chefnogaeth o £6m gan Lywodraeth Cymru.

Dywed y datblygwyr y bydd hanner y tai yn rhai fforddiadwy. Yn ôl pennaeth y Principality, Peter Griffiths, gall datblygiad o’r math gael ei ailadrodd mewn ardaloedd eraill o Gymru er mwyn darparu tai newydd a fydd yn cael eu prynu neu eu rhentu am bris rhesymol.

Dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth y Cynulliad, Edwina Hart, fod y datblygiad yn hwb pwysig i’r sector dai:

“Bydd yn creu nifer sylweddol o swyddi yn ardal Caerdydd dros y pump i chwe blynedd nesaf, gan roi cyfleoedd busnes pellach i’r sector sy’n cyflenwi cwmnïau adeiladu.

“Bydd y £6m yn cael ei dalu nôl i Lywodraeth Cymru, gyda llog, ar ddiwedd y datblygiad a bydd yn cael ei ail-gylchu i gefnogi prosiectau eraill yng Nghymru yn y dyfodol,” meddai Edwina Hart

Os bydd y datblygiad yn cael hawl cynllunio gan Gyngor Caerdydd bydd y gwaith o baratoi’r safle yn dechrau ym mis Hydref. Bydd tai’n dechrau cael eu codi yn ystod y gwanwyn 2013 ac mae’r datblygwyr yn gobeithio gorffen erbyn diwedd 2017.