Cafodd dynes yn ei saithdegau ei lladd yn dilyn gwrthdrawiad â char yn Llandrillo yn Rhos heddiw, a chafodd dynes arall ei hanafu’n ddifrifol.

Mae’n debyg bod y ddwy ddynes wedi bod yn cerdded ar hyd Fordd Rhos pan fuon nhw mewn gwrthdrawiad â char Jaguar glas am 3.36pm prynhawn Llun, 16 Ebrill.

Bu farw’r ddynes, oedd yn byw’n lleol, yn y fan a’r lle. Cafodd y ddynes arall, sydd hefyd yn byw’n lleol, ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol. Cafodd gyrrwr y car hefyd ei gludo i’r ysbyty ond mae’n debyg nad yw ei anafiadau yn rhai difrifol.

Mae’r gwasanaethau brys yn dal i fod ar y safle ac mae’n bosib y bydd y ffordd rhwng promenâd y Cayley a Ffordd Penrhyn ar gau am rai oriau eto.

Mae’r crwner wedi ei hysbysu.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion i’r ddamwain i gysylltu â nhw ar 101.