Mae Heddlu De Cymru wedi galw am lygaid dystion wedi gwrthdrawiad difrifol yng Nghastell-nedd.

Dioddefodd cerddwr 53 oed anafiadau difrifol i’w ben ar ôl cael ei daro gan fan Ford Transit gwyn.

Aethpwyd ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd mewn hofrennydd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 5.15pm ddoe ar Stryd Alfred y dref.

Caewyd y ffordd am tua phedwar awr wrth i’r heddlu ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.

Hoffai’r heddlu siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y fan yn cael ei yrru cyn y ddamwain.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 01792 456999.