Ched Evans a Clayton McDonald
Roedd dynes, sy’n honni iddi gael ei threisio gan ddau bêl-droediwr, wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd hi’n gallu cofio’r ymosodiad ac yn amau bod rhywun wedi ychwanegu rhywbeth at ei diod, clywodd Llys y Goron Caernarfon heddiw.

Mae  Ched Evans, 23, sy’n enedigol o Lanelwy, ac yn ymosodwr Cymru a Sheffield United, a Clayton McDonald, 23,  sy’n chwarae i Port Vale,  yn gwadu treisio’r ddynes.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yng ngwesty’r Premier Inn ger Y Rhyl fis Mai’r llynedd.

Mewn cyfweliad gyda’r heddlu gafodd ei ddangos i’r llys heddiw, mae’r ddynes, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn dweud nad ydy hi’n cofio mynd i’r gwesty na beth ddigwyddodd yno.

Mae McDonald, o Marys Gate, Crewe, Sir Gaer, ac Evans, o Millhouse Green, Penistone, De Swydd Gaerefrog, wedi cyfaddef iddyn nhw gael rhyw gyda’r ddynes.

Ond mae’r erlyniad yn dadlau bod y ddynes, oedd yn 19 oed ar y pryd, wedi bod yn rhy feddw i  gydsynio i gael rhyw gyda’r ddau.

Clywodd y llys bod y ddynes, ar noson yr ymosodiad, wedi cael dau wydraid o win gyda’i chyd-weithwyr ar ôl gorffen gweithio mewn tŷ bwyta. Wedyn aeth mewn tacsi i far Zu yn y Rhyl i gwrdd â ffrindiau lle cafodd pedwar fodca dwbl a sambuca, cyn mynd i siop fwyd cyflym y Godfather, heb ei ffrindiau.

‘Ddim yn cofio’

Dywedodd ei bod wedi deffro’r bore wedyn, yn noeth, ac ar ei phen ei hun yn ystafell wely’r gwesty. Y  peth olaf mae hi’n ei gofio, meddai, yw bod yn siop y Godfather.

Ar ôl iddi ddeffro, dywedodd mai ei phryder mwyaf oedd nad oedd hi’n gallu dod o hyd i’w bag.

Mewn cyfweliad gyda’r heddlu dywedodd: “Mae’n ofnadwy achos dydw i ddim yn gwybod sut nes i gyrraedd (y gwesty).”

Dywedodd nad oedd hi’n cofio sut iddi fynd o’r siop i’r gwesty, na beth ddigwyddodd yno a dyna pam ei bod yn credu bod rhywun wedi ychwanegu rhywbeth at ei diod.

Wrth roi tystiolaeth i’r heddlu, dywedodd y ddynes nad oedd hi wedi yfed mwy o alcohol nag arfer y noson honno, a’i bod fel arfer yn yfed llawer mwy.

Roedd profion gwaed yn dangos bod olion cocen a chanabis yn ei system, ond mae’r ddynes yn gwadu cymryd cyffuriau ar noson yr ymosodiad honedig.

Croesholi

Wrth gael ei chroesholi drwy linc fideo, roedd y ddynes wedi dweud unwaith eto nad oedd yn cofio cwrdd â McDonald, mynd mewn tacsi i’r Premier Inn na chael rhyw gydag ef a Evans.

Dywedodd Lloyd Morgan, ar ran McDonald, ei bod wedi mynd i’r ystafell gydag e ac wedi cael rhyw. Pan ddaeth Evans i’r ystafell fe ofynodd  a fyddai’n gallu ymuno â nhw ac, yn ôl Lloyd Morgan, fe atebodd hi, “Ie, iawn.”

Cyn i Evans ddod i mewn, roedd McDonald wedi tynnu’r llenni am fod “cwpl o lanciau” yn edrych arnyn nhw drwy’r ffenest, meddai Lloyd Morgan.

Fe awgrymodd Lloyd Morgan bod y ddynes wedi deffro tua 11.30am y bore trannoeth ac yn gwybod beth oedd wedi digwydd, ac yn teimlo embaras.

“Doeddech chi ddim eisiau cyfaddef beth oedd wedi digwydd,” awgrymodd.

‘Oedi cyn mynd at yr heddlu’

Clywodd y llys bod y ddynes wedi mynd at yr heddlu ar ôl iddi orffen shifft hwyr yn y gwaith ar 30 Fai. Fe benderfynodd fynd at yr heddlu ar ôl trafod y mater gyda’i chyd-weithwyr, ei ffrind a’i mam.

Gofynodd David Fish QC ar ran Evans: “Oedd na reswm pam eich bod wedi oedi cyn mynd at yr heddlu?”

Dywedodd y ddynes nad oedd hi wedi bwriadu mynd at yr heddlu yn wreiddiol: “Doeddwn i ddim yn gwybod  bod unrhyw beth wedi digwydd, roeddwn i’n amlwg wedi drysu ynglyn â sut roeddwn i wedi cyrraedd yno (y gwesty).”

Awgrymodd David Fish ei bod wedi cael cyfathrach rhywiol gyda’r ddau ddyn o’i gwirfodd.

“Wnaethoch chi ddim rhoi unrhyw arwydd nad oeddech chi eisiau cael rhyw,” meddai.

Cafodd yr achos ei ohirio tan yfory.