Nikitta Grender
Mae’r heddlu wedi dweud bod merch feichiog wedi ei thrywanu cyn iddyn nhw ddod o hyd i’w chorff yn dilyn tân yn ei fflat.

Dywedodd Heddlu Gwent fod archwiliad post-mortem yn dangos fod Nikitta Grender, 19 oed, wedi ei thrywanu.

Roedd ganddi bythefnos ar ôl cyn rhoi genedigaeth i ferch fach.

Y manylion

Cafodd Gwasanaeth Tân De Cymru a Heddlu Gwent eu galw i’r fflat ar ystad Broadmead Park, yn Llyswyry, am 7.50am ddydd Sadwrn.

Daeth diffoddwyr hyd at o hyd i gorff Nikitta Grender yn ystafell wely’r fflat ar y llawr cyntaf.

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw wedi dod o hyd i’r arf eto. Maen nhw’n credu ei bod hi wedi ei thrywanu â chyllell.

Mae timau fforensig yn dal i archwilio’r fflat.

‘Dideimlad’

“Roedd hon yn drosedd erchyll ac mae dau fywyd diniwed wedi eu colli,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Geoff Ronayne.

“Roedd Nikitta o fewn pythefnos i roi genedigaeth i ferch fach. Mae hon yn drosedd arbennig o ddideimlad ac yn rhywbeth nad ydyn ni’n ei weld yn aml.

“Roedd teulu Nikitta wedi bod yn edrych ymlaen at enedigaeth y babi a nawr maen nhw wedi torri eu calonnau.”

McDonalds

Dywedodd fod Nikitta Grender wedi bod allan gyda ffrindiau bnawn Gwener ac wedi galw mewn McDonalds yn ardal Spytty yn ystod y prynhawn.

Maen nhw’n annog unrhyw un oedd yn ardal 51 Broadmead Park, neu a welodd Nikitta Grender o 7pm dydd Gwener ymlaen, i gysylltu gyda nhw.

“Mae rhywun yn gwybod pwy wnaeth hyn ac rydyn ni’n annog aelodau o’r gymuned i gysylltu gyda ni,” meddai.

Dywedodd fod mwy na 50 o swyddogion yr heddlu yn gweithio ar yr achos.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu ar 01443 865562 neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555111.