Dywed Heddlu’r Gogledd bod corff dyn wedi ei ddarganfod ar fynydd yn Eryri bore ma.

Roedd y dyn, oedd yn ei ugeiniau, wedi bod ar goll ers nos Fawrth. Cafodd timau achub eu hysbysu ar ôl iddo fethu  â dychwelyd ar ôl mynd am dro yn Eryri.

Cafwyd hyd i’w gorff am 10.20am bore ma yn ardal ddwyreiniol yr Wyddfa.

Bu’r tîm achub mynydd, yr Awyrlu a’r heddlu yn chwilio ar y cyd am y dyn.

Dyw’r heddlu heb gyhoeddi enw’r dyn ond mae’n debyg nad yw’n byw’n lleol.