Kirsty Williams
Mae nifer y cleifion iechyd meddwl sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty heb gynllun gofal yn “annerbyniol,” yn ôl arweinydd y Dems Rhydd heddiw.

Yn ôl Kirsty Williams, mae 2,242 o gleifion iechyd meddwl wedi cael eu rhyddhau o ofal llawn amser ysbytai Bwrdd Iechyd Caerdydd a Bro Morgannwg ers 2009 heb unrhyw gefnogaeth bellach.

“Mae llawer gormod o gleifion yn methu cael y gefnogaeth y maen nhw ei angen unwaith iddyn nhw gael eu rhyddhau,” meddai Kirsty Williams.

“Mae’n holl bwysig bod cleifion yn cael cynllun gofal da, ac yn cael cydlynydd gofal wedi ei benodi iddyn nhw, fel eu bod nhw’n derbyn y gofal trylwyr sydd ei angen arnyn nhw.

“Dyw hi ddim yn dderbyniol fod dros ddwy fil o gleifion wedi cael eu rhyddhau heb gynllunio digonol.”

‘53% heb gydlynydd gofal’

Daw’r ffigyrau yn sgil cais rhyddid gwybodaeth gan y Dems Rhydd, sydd hefyd yn dangos fod 53% o gleifion iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Caerdydd a Bro Morgannwg wedi cael eu rhyddhau heb fod cydlynydd gofal wedi cael ei benodi iddyn nhw.

“Mae cynllunio iechyd effeithlon yn rhan bwysig iawn o’r broses o ail-sefydlu cleifion.

“Ar ôl eu rhyddhau, mae’n holl bwysig bod cleifion yn cael cynllun iechyd diweddar sydd wedi ei drafod a’i gytuno gyda’r claf o flaen llaw.”

Ddiwedd mis Mawrth, fe ddatgelodd y Dems Rhydd ffigyrau oedd yn dangos bod nifer y cleifion iechyd meddwl oedd yn gorfod dychwelyd am driniaeth ar ôl eu rhyddhau yn parhau’n uchel.

“Bydd yna wastad canran o gleifion sy’n gorfod dychwelyd am driniaeth, ond dydyn ni ddim yn mynd i allu cael y ffigyrau hynny i lawr os nad yw cleifion yn derbyn cefnogaeth ddigonol,” meddai Kirsty Williams.

“Dydi’r cylch yma o orfod dychwelyd am driniaeth yn helpu dim ar gleifion, eu teuluoedd, na’r Gwasanaeth Iechyd.”