Mae dyn 66 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei daro gan fws yng Nghaerdydd neithiwr.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn Heol Caerdydd, Llandaf am 7.45pm nos Fawrth. Roedd y dyn yn cerdded ar hyd y ffordd pan gafodd ei daro gan fws. Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau difrifol i’w goes ac mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am dystion. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 02920 571600.