Mae lladron wedi achosi difrod gwerth degau o filoedd o bunnau mewn ysgol yn Rhondda Cynon Taf, wedi iddyn nhw ddwyn 12 metr o blwm o do’r ysgol.

Cafodd dwy ystafell yn Ysgol Gynradd Tonyrefail eu difrodi gan gawodydd trwm dros y penwythnos yn sgil y lladrad, a chafodd llawer o adnoddau’r ysgol a gwaith y plant eu difrodi’r un pryd.

Mae’n debyg bod camerau cylch-cyfyng yr ysgol wedi cael eu gorchuddio gan y lladron cyn iddyn nhw ddwyn y plwm o’r to, nos Iau diwethaf.

‘Hunanol a llwfr’

Heddiw, mae’r Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, Eluned Parrott, wedi galw am gosbau llym i ladron sy’n achosi’r fath niwed yn y gymuned.

“Rydw i wedi fy mrawychu gan weithgareddau hunanol, anystyriol a llwfr yr unigolion hyn. Mae ysgolion Cymru dan ddigon o bwysau yn barod, heb yr ymyrraeth hyn,” meddai.

Yn ôl Eluned Parrott, mae angen “mynd ymhellach” wrth daclo lladron sy’n dwyn metel ac yn difrodi cyfleusterau cymunedol gwerthfawr.

“Mae lladron metel yn targedu calon ein cymunedau, gydag effeithiau difrifol ar lawdriniaethau ysbyty, teithiau tren, canolfanau cymunedol, a’n system addysg.

“Tra bod y gyfraith yn cael ei thynhau, mae’n rhaid i ni ddibynu ar bobol yn dweud wrth yr heddlu am y troseddwyr hyn, fel mater o frys.”

Addawodd y byddai hefyd yn siarad gyda chyd-aelodau yn San Steffan er mwyn “mynd ymhellach” wrth daclo troseddau fel hyn.