Afon Gwy
Mae’r gwasanaethau brys yn chwilio am ddyn neidiodd i Afon Gwy ger y ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw.

Galwyd y gwasanaethau brys i’r bont ar yr A48, rhwng Cas-gwent a phentref Sedbury, yn ystod oriau mân y bore.

Nid oes golwg o’r dyn hyd yma er gwaethaf chwiliad maith. Dywedodd yr heddlu ei fod wedi neidio i’r dŵr toc cyn 1am y bore ma.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn wedi bod allan yng Nghas-gwent brynhawn ddydd Sul, cyn iddo neidio i’r afon.

Dywedodd Heddlu Caerloyw eu bod nhw eisiau siarad ag unrhyw un a welodd y dyn yn neidio i’r dŵr.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101.